*THE THREE WELSH TENORS TOUR*











The annual Welsh cultural extravaganza known as the Eisteddfod was dominated this year by a new singing sensation called The Three Welsh Tenors. Individually, they are three professional singers : Rhys Meirion, whose duet album with Bryn Terfel was nominated for a Classical Brit Award, Aled Hall and Alun Rhys-Jenkins, and together they have caused a stir among classical and popular circles the likes of which has not been seen since Pavarotti, Domingo and Carreras first created the genre. Indeed, their debut album, released in July, promptly entered the Classical Charts, based mainly on their sales within Wales itself. The album is now being launched in England with a concert at The London Welsh Centre at Gray’s Inn Road, followed by a series of concerts in various venues throughout the Autumn.













*LUCY KELLY*






The Three Welsh Tenors will be introducing a new young talent from Wales during their concert tour. She is 14 year old Lucy Kelly, a schoolgirl from the Isle of Anglesey. She released her debut album when she was only 12 years old, and her new album shows a talent and maturity well beyond her years. The Three Tenors tour will certainly enhance Lucy’s already enthusiastic fan base, for her singing has to be heard live to be fully appreciated.

Lucy Kelly



15.10.11 : London Welsh Centre, Gray’s Inn Rd, London – 7.30pm £12 (tickets available from centre office or 01286 831 111 / www.sainwales.com )

09.11.11 : The Great Hall, Aberystwyth – 7.30pm £12.50

19.11.11 : Pontyberem Hall, Llanelli - 7.30pm £12

(tickets available from Menter Cwm Gwendraeth – 01269 871600)

21.11.11: Weston Studio, Wales Millennium Centre, Cardiff – 8pm £12 (02920 636 464)

3.12.11 : Y Ganolfan, Porthmadog – 7.30pm £12 (tickets available from Siop Eifionydd)

14.12.11 : Theatr Felinfach, Felinfach – 7.30pm £10 (tickets available from 01570 470697)







[image 4 300x300]










*TAITH TRI TENOR CYMRU*









Bu’r Eisteddfod eleni yn arbennig iawn i dri chanwr ifanc sydd newydd gyhoeddi eu halbym gyntaf ar y cyd. Y tri wrth gwrs yw Rhys Meirion, Aled Hall ac Alun Rhys-Jenkins, a gyda’i gilydd y nhw yw Tri Tenor Cymru. Daeth yr eisteddfod i stop unwaith neu ddwy gan gymaint oedd y galw i glywed y tri yn perfformio, ac aeth eu halbym yn syth i’r Siart Glasurol. Roedd hynny ar sail gwerthiant yng Nghymru’n unig, ac yn awr mae’r albym yn cael ei lawnsio’n swyddogol y tu allan i Gymru gyda chyngerdd arbennig yng Nghanolfan Cymry Llundain ar y 15fed o Hydref am 7.30yh. Dilynir hyn gan daith o gyngherddau ar hyd a lled Cymru, ac eisoes mae galw mawr am y tocynnau. Yn wir, ni welwyd y fath frwdfrydedd ers i Pavarotti, Domingo a Carreras greu’r triawd cyntaf, ac yn awr mae Tri Tenor Cymru yn bygwth ennill y blaen hyd yn oed ar y cewri anfarwol hynny!













*LUCY KELLY*




Yn ystod eu taith o gyngherddau, bydd Tri Tenor Cymru yn cyflwyno’r gantores ifanc o Ynys Môn, Lucy Kelly, i gynulleidfaoedd newydd. Wedi llwyddiant ei halbym gyntaf a recordiwyd pan nad oedd ond 12 oed, mae ei recordiad newydd yn dangos fel yr aeddfedodd yn gantores wirioneddol dalentog, gan gadw ei phersonoliaeth befriog. Bydd y cyngherddau hyn yn sicr o ennill i Lucy filoedd o gefnogwyr newydd, ac y mae’n edrych ymlaen at y daith yn fawr.



Lucy Kelly



15.10.11 : Canolfan Cymry Llundain, Gray’s Inn Rd, London – 7.30yh £12 (tocynnau o swyddfa’r ganolfan neu 01286 831 111 / www.sainwales.com )

09.11.11 : Neuadd Fawr, Aberystwyth – 7.30yh £12.50

19.11.11 : Neuadd Pontyberem, Llanelli - 7.30yh £12

(tocynnau gan Menter Cwm Gwendraeth – 01269 871600)

21.11.11: Stiwdio Weston, Canolfan y Mileniwm, Caerdydd – 8yh £12 (02920 636 464)

3.12.11 : Y Ganolfan, Porthmadog – 7.30yh £12 (tocynnau gan Siop Eifionydd)

14.12.11 : Theatr Felinfach, Felinfach – 7.30yh £10 (tocynnau - 01570 470697)









*MARK EVANS – ALBYM NEWYDD / NEW ALBUM*









Album Launch / Lansio'r albym






[image 3 2000x200]






Neges gan Mark : 'Wel, mae dyddiad rhyddhau fy albym unigol gyntaf 'Adre'n ôl / The Journey Home' yn brysur agosáu…. bydd yr albym yn y siopau dydd Llun, Hydref 17eg. Ac i ddathlu rhyddhau’r CD mae parti lansio wedi ei drefnu ar gyfer y diwrnod cynt, sef dydd Sul, Hydref 16eg yn Llundain. ' Parti bowlio yw'r lansiad! Mi fyddai'n perfformio cwpwl o draciau oddi ar yr albym newydd ynghyd ag arwyddo copiau o'r cd. Bydd y gantores dalentog, Ashleigh Gray yn westai arbennig yno hefyd, a bydd y ddau ohonom yn canu'r ddeuawd 'Alive' oddi ar yr albym newydd. Dyma fideo dwi wedi ei greu i gofnodi'r broses o recordio'r albym - o'r sesiwn cynta i'r cyhoeddusrwydd diweddaraf







I archebu tocynnau i'r lansiad cliciwch ar y linc yma : http://www.wegottickets.com/event/132843



It is just a few weeks until the official release of my debut album 'The Journey Home'. It is released on October 17th as you know and lots of you have already got your tickets to the launch party which is on Sunday October 16th.





[image 5 500x500]






If you want to book tickets then click on this link



It's a bowling party and I'll be performing a few tracks from the album and doing a signing of the CD's which are available at the launch which is the day before the official release of the album. I'll also have a very special guest, the wonderfully talented Ashleigh Gray who will be performing the duet we recorded on the album and we'll each captain a team in the ultimate bowling challenge - Who's team do you want to be on?



Here's a special video for you to watch which I put together to show you the entire album making process from beginning to end









*Recording a tv special for S4C* / *Recordio rhaglen deledu i S4C*

*An Evening With Mark Evans* / *Noson Yng Nghwmni Mark Evans*




[image 1 300x300]




If you’d like to be a part of the audience (tickets free of charge) please contact / Mae croeso i chi gysylltu â steffan.watkins@boomerang.co.uk i archebu tocynnau i’r noson – mae’r tocynnau’n rhad ac am ddim.







*Calan - taith a chyhoeddi albym newydd / tour and new album*











[image 2 200x200]




Mae'r misoedd diwethaf wedi bod yn rhai prysur iawn i'r grwp gwerin Calan, wrth iddynt recordio ei hail albym - Jonah yn stiwdio Sain, Llandwrog ynghyd â theithio ar hyd a lled Prydain i berfformio mewn nifer o wyliau gwerin - o Whitby i Fylde, Moseley, Bromyard a Derby!

Hefyd, bydd y band yn cychwyn ar daith o Gymru gyda'r band gwerin Breabach o'r Alban ganol mis Hydref (dyddiadau : www.calan-band.com) ac i holl ddylynwyr Calan, bydd y daith yn gyfle i chi brynu copi o'r albym newydd - Jonah. Bydd modd archebu copi o'r albym o siopau Cymraeg Cymru ynghyd â gwefan Sain a gwefan Calan (www.calan-band.com) o Hydref 17eg.





Work is now complete on the second album from top young Welsh traditional band Calan, who have been storming the festivals for the last couple of years, and this summer they've been appearing at Whitby, Shrewsbury, Fylde, Moseley, Bromyard and Derby festivals. They'll be touring Wales with Scottish band Breabach later in the month and to all Calan fans, this will be an opportunity to buy pre-released copies of their new album - Jonah.



The album will not be officially released in the UK until early 2012 however all Calan fans will be able to buy the album at concerts and from their website www.calan-band.com / www.sainwales.com from Oct 17th.



Maartin Allcock, multi-instrumentalist who's performed with Jethro Tull, Fairport Convention and other big folk names, produced their first album and it was great to have him working with them again on Jonah.