The annual Welsh cultural extravaganza known as the Eisteddfod was dominated this year by a new singing sensation called The Three Welsh Tenors. Individually, they are three professional singers : Rhys Meirion, whose duet album with Bryn Terfel was nominated for a Classical Brit Award, Aled Hall and Alun Rhys-Jenkins, and together they have caused a stir among classical and popular circles the likes of which has not been seen since Pavarotti, Domingo and Carreras first created the genre. Indeed, their debut album, released in July, promptly entered the Classical Charts, based mainly on their sales within Wales itself. The album was launched in England with a concert at The London Welsh Centre at Gray’s Inn Road and is now followed by a series of concerts in various venues throughout Wales.
The Three Welsh Tenors will be introducing a new young talent from Wales during their concert tour. She is 14 year old Lucy Kelly, a schoolgirl from the Isle of Anglesey. She released her debut album when she was only 12 years old, and her new album shows a talent and maturity well beyond her years. The Three Tenors tour will certainly enhance Lucy’s already enthusiastic fan base, for her singing has to be heard live to be fully appreciated.
Bu’r Eisteddfod eleni yn arbennig iawn i dri canwr ifanc sydd newydd gyhoeddi eu albym gynta ar y cyd. Y tri wrth gwrs yw Rhys Meirion, Aled Hall ac Alun Rhys-Jenkins, a gyda’i gilydd y nhw yw Tri Tenor Cymru. Daeth yr eisteddfod i stop unwaith neu ddwy gan gymaint oedd y galw i glywed y tri yn perfformio, ac aeth eu albym yn syth i’r Siart Glasurol. Roedd hynny ar sail gwerthiant yng Nghymru’n unig, lansiwyd yr albym yn swyddogol y tu allan i Gymru gyda chyngerdd arbennig yng Nghanolfan Cymry Llundain ganol mis Hydref. Dilynir y lansiad llwyddiannus gyda daith o gyngherddau ar hyd a lled Cymru, ac eisoes mae galw mawr am y tocynnau. Yn wir, ni welwyd y fath frwdfrydedd ers i Pavarotti, Domingo a Carreras greu’r triawd cyntaf, ac yn awr mae Tri Tenor Cymru yn bygwth ennill y blaen hyd yn oed ar y cewri anfarwol hynny!
Yn ystod eu taith o gyngherddau, bydd Tri Tenor Cymru yn cyflwyno’r gantores ifanc o Ynys Môn, Lucy Kelly, i gynulleidfaoedd newydd. Wedi llwyddiant ei halbym gyntaf a recordiwyd pan nad oedd ond 12 oed, mae ei recordiad newydd yn dangos fel yr aeddfedodd yn gantores wirioneddol dalentog, gan gadw ei phersonoliaeth befriog yr un. Bydd y cyngherddau hyn yn sicr o ennill i Lucy filoedd o gefnogwyr newydd, ac y mae’n edrych ymlaen at y daith yn fawr.